Eich Partner Recriwtio Addysg Ddibynadwy
Yn M&M Supply, ein nôd yw i osod safon o fewn recriwtio addysg trwy ddatblygu gwasanaeth er budd ysgolion sy’n edrych am athrawon safon uchel. Trwy gydweithio ag ymrwymiad rhagorol, rydym yn ymdrechu i ragori disgwyliadau ac i ddyrchafu'r lefel o wasanaeth o fewn y diwydiant recriwtio.
Cysylltu Ysgolion ag Addysgwyr Eithriadol
Yn M&M Supply, rydym yn deall bod addysg yn dechrau gyda’r bobl gywir. Fel arbenigwyr mewn recriwtio addysg, rydym yn darparu gwasanaeth staffio dros dro a parhaol o ansawdd uchel i ysgolion ar draws y De Orllewin, gan gynnwys Cymru, Bryste, Swydd Gaerloyw, Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Plymouth. Mae ein nod yn syml, i gysylltu addysgwyr angerddol ag ysgolion lle gallant wneud gwahaniaeth.
Gyda sylfaen sy’n seiliedig ar brofiad personol, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ddod o hyd i’r dewis berffaith - nid yn unig ar gyfer yr ysgolion ond ar gyfer yr addysgwyr ei hunain. Rydym wedi ymrwymo i dryloywder, amynedd ac effaith hirdymor gan sicrhau fod pob lleoliad yn gam tuag at gyfoethogi meddyliau ifanc. Ydych chi’n ysgol sydd angen gweithwyr proffesiynol, ymroddedig neu’n addysgwyr sy’n edrych am eich cyfle nesaf? Mae M&M Supply yma i’ch cefnogi chi.
Ein Gwasanaethau: Recriwtio wedi’i deilwra ar gyfer y sector addysg
Atebion Staffio Dros Dro a Pharhaol
Os oes angen cyflenwad tymor byr neu staff hir-dymor arnoch, rydym yn darparu staff addysgu a chymorth o ansawdd uchel wedi’u teilwra i anghenion eich ysgol. O gyflenwadau dydd i ddydd i logi parhaol, rydym yn sicrhau cysondeb a dibynadwyedd ym mhob lleoliad.
Recriwtio Arbenigol Ar Draws Pob Lefel o Addysg
Rydym yn recriwtio ar gyfer ystod eang o rolau, gan gynnwys Athrawon, Cynorthwywyr Addysg, Arbenigwyr ADY ac Arweinyddiaeth Uwch. Rydym hefyd yn cefnogi swyddi nad ydynt yn ymwneud ag addysgu o fewn ysgolion, gan sicrhau fod gan bob adran y dalent cywir.
Cefnogaeth i Ymgeiswyr & Datblygiad Gyrfa
Rydym yn helpu addysgwyr i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd gyda chymorth ysgrifennu CV, cymorth wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, ac arweiniad arbenigol. Ein nod yw paru ymgeiswyr â rolau lle gallant lwyddo a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dulliau Tryloyw a Phersonol
Rydym yn credu mewn cyfathrebiad agored a recriwtio onest. Mae ysgolion yn cael eu hysbys trwy’r broses llogi, ac mae ymgeiswyr yn derbyn cefnogaeth ar hyd y ffordd. Rydym yn cymryd yr amser i ddeall anghenion y cyflogwr a’r gweithiwr, gan sicrhau’r dewis gorau ar gyfer llwyddiant hirdymor.